-
Asbestosis :-
Ffibrosis neu
greithio’r ysgyfaint sy’n cael ei achosi yn sgil dod i gysylltiad ag
asbestos. Mae asbestosis yn datblygu’n araf sy’n golygu bod cyflwr y
sawl sy’n dioddef ohono’n dirywio dros gyfnod o flynyddoedd.
-
Haenau
trwchus o’r pliwra:
Rhannau o’r pliwra sydd wedi tewychu’n sylweddol y gellir eu gweld ar
belydr-x. Pilen ag iddi ddwy haen yw’r pliwra sy’n amgylynchu’r
ysgyfaint ac yn leinio tu mewn y cawell asennau.
-
Tewychiad pliwrol:
Waliau’r ysgyfaint yn tewychu yn sgil creithio a achosir gan asbestos.
Gallai achosi diffyg anadl.
-
Mesothelioma:
Ffurf o ganser sy’n cael ei achosi yn y rhan fwyaf o achosion yn sgil dod i
gysylltiad â llwch asbestos. Mae’n effeithio ar leinin yr ysgyfaint, wal y
frest neu’r abdomen. Gall yr afiechyd gymryd hyd at 10-15 i 40+ o
flynyddoedd i ddatblygu ar ôl dod i gysylltiad am y tro cyntaf â llwch
asbestos..
-
Canser yr
ysgyfaint: Mae’n
hysbys bod cysylltiad rhwng Canser yr Ysgyfaint a dod i gysylltiad â llwch
asbestos. Mae pobl sydd eisoes wedi datblygu asbestosis mewn mwy o risg o
ddatblygu canser yr ysgyfaint.
-
Ysmygu a Dod
i Gysylltiad ag Asbestos:
Mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod ysmygu’n cynyddu’r risg o ddatblygu
afiechyd sy’n gysylltiedig ag asbestos o 92% os ydych chi wedi dod i
gysylltiad â llwch asbestos. Byddai o les i chi, ac i’ch teulu, pe baech yn
rhoi’r gorau i ysmygu’n syth.